Os na chysylltwyd â chi, gallwch wneud cais i dderbyn y brechlyn. Gallwch wneud hyn trwy lenwi ffurflen ar wefan eich bwrdd iechyd lleol a chadarnhau eich bod yn gymwys i dderbyn y brechlyn.
I fod yn gymwys i gael y brechlyn, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi tri ffactor y mae'n rhaid i chi eu bodloni i fod yn gymwys.
Mae Gofalwyr Cymru wedi llunio'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i weld a ydych chi'n gymwys i gael y brechlyn, y ddolen uniongyrchol i wneud cais yn ardal eich bwrdd iechyd lleol a llawer o gwestiynau cyffredin eraill ar ein gwefan.
Cliciwch yma i fynd yn uniongyrchol i'r dudalen hon (Dim ond ar gael yn Saesneg)