Mae 1 o bob 7 o bobl sy'n gweithio yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl i deulu neu ffrindiau.
Gofalwyr sy'n gweithio yw'r grŵp sydd fwyaf tebygol o golli allan ar wybodaeth a chyngor, a’r lleiaf tebygol o gael unrhyw gymorth ffurfiol gartref. Heb gymorth, gall gofalwyr sy'n gweithio stryglo tu mewn a thu allan i'r gweithle.
Mae'r canllaw hwn wedi'i gynllunio i helpu gofalwyr sy'n gweithio i adnabod eu hunain fel gofalwyr, ac i godi ymwybyddiaeth o'u hawliau cyfreithiol i gael cymorth yn y gymuned a’r gweithle. Os ydych chi’n gyflogwr, gall y canllaw hwn eich helpu i ddeall ffyrdd o gynnig cymorth i ofalwyr sy'n gweithio.