Bydd ymchwil yn edrych ar gyfraniad gwirfoddolwyr at ofal cymdeithasol

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal astudiaeth i ddeall tirwedd wirfoddoli’r maes gofal cymdeithasol yn well yng Nghymru

Mae’r astudiaeth yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru o dan y Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal i ddeall cyfraniad gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl at y gweithlu, ac i edrych ar ddatblygu model i gefnogi gwirfoddoli o fewn y maes gofal cymdeithasol. Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal gan Gofal Cymdeithasol Cymru mewn partneriaeth â Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a’r ‘Bayes Centre for Charity Effectiveness’.

Bydd yr astudiaeth yn edrych ar y canlynol:

  • Cwmpas a natur y dystiolaeth sy’n bodoli ar wirfoddoli yn y maes gofal cymdeithasol ledled y DU, a beth all Cymru ei ddysgu o hyn.
  • Sut mae gwirfoddoli yn cael ei ddeall, adnoddu, trefnu, rheoli a’i brofi mewn lleoliadau gofal cymdeithasol preswyl
  • Demograffeg y rheini sy’n gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal cymdeithasol preswyl
  • Y prif heriau a chyfleoedd sy’n wynebu gwirfoddoli yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru

Mae Grŵp Llywio’r Astudiaeth, a gadeirir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, eisoes wedi cwrdd, a byddant yn cwrdd tair gwaith arall dros oes yr astudiaeth. Byddant yn clywed gan groestoriad o ‘hysbyswyr allweddol’, yn enwedig y rheini sy’n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau cefnogaeth uwch-arweinwyr yn y sector a’r rheini sy’n agos at linell flaen darparu gwasanaethau. Bydd gan yr hysbyswyr allweddol hyn safbwyntiau sy’n ganolog i nodau’r astudiaeth a byddant yn helpu i fireinio cynnwys a geiriad arolwg.

Mae Grŵp Llywio’r Astudiaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o fudiadau gofal cymdeithasol a gwirfoddoli allweddol.

Bydd y tri chyfarfod sydd i ddod yn canolbwyntio ar:

  •  Adolygu’r canfyddiadau o adolygiad llenyddiaeth
  • Cynllunio ar gyfer astudiaethau achos
  • Adolygu canfyddiadau’r astudiaethau achos
  • Cynllunio arolwg
  • Adolygu canfyddiadau’r arolwg
  • Cynllunio adroddiad terfynol
  • Argymhellion
  • Dosbarthu

Bwriedir cwblhau’r gwaith hwn erbyn diwedd y flwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth am iechyd a gofal, ewch draw i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity