Ymhlith yr wyth categori eleni mae’r Wobr Iechyd a Lles. Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno i grŵp neu fudiad sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymuned drwy wella lles meddyliol a/neu iechyd a lles corfforol. Bydd y cais buddugol yn dangos y newid cadarnhaol yn llesiant eu cymuned neu gymdeithas ehangach o ganlyniad i’w camau gweithredu. Bydd hefyd yn amlygu eu dull arloesol o wella iechyd a lles. Dyma’ch cyfle i enwebu mudiad sydd, yn eich tyb chi, yn cael effaith enfawr ar iechyd a lles pobl.
Mae enwebu rhywun yn hawdd, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru, darllenwch y rheolau a llenwi’r ffurflen ar-lein.
Manteisiwch ar y cyfle hwn i enwebu mudiad sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl eraill yn y maes iechyd a lles.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 26 Mehefin 2023. I gael rhagor o wybodaeth ac i enwebu, ewch i www.gwobrauelusennau.cymru.
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i’n prif noddwr SCG Cymru a noddwyr y categorïau eraill.