Arfer gorau wrth recriwtio gwirfoddolwyr

Mae recriwtio mwy diogel yn ymwneud ag ymrwymo i gadw plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n wynebu risg yn ddiogel

Mae recriwtio mwy diogel yn cyfeirio at gyfres o arferion sy'n hanfodol i greu amgylchedd diogel a sicrhau bod eich gwirfoddolwyr yn addas i weithio gyda grwpiau agored i niwed.

Mae'n golygu bod yn rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwirfoddolwyr yr ydych yn eu recriwtio i'ch mudiad yn addas ac yn briodol.

Bydd tair egwyddor allweddol yn helpu i sicrhau eich bod yn rhoi diogelu ar waith wrth ddod o hyd i’ch gwirfoddolwyr a’u dewis:

  • Rhaid i'ch prosesau ymwneud â lefel y risg ar gyfer y rôl

  • Peidiwch â defnyddio un dull sy’n addas i bawb ar gyfer yr holl staff a gwirfoddolwyr. Rhaid i'ch gofynion weddu i risg pob rôl.

  • Dylai recriwtio mwy diogel fod yn broses barhaus o welliant. Dylid adolygu prosesau o leiaf unwaith y flwyddyn i sicrhau eu bod yn gweithio'n dda i gadw pobl yn ddiogel

Nid oes unrhyw un eisiau meddwl nad yw lles gorau'r elusen y maent yn gweithio iddi yn ganolog i bobl ond mae adroddiadau diweddar wedi bod am geisiadau gwirfoddolwyr twyllodrus yn y sector.

Os oes gennych unrhyw bryderon am geisiadau gwirfoddolwyr twyllodrus, cysylltwch â'r Comisiwn Elusennau gan ddefnyddio'r manylion yma: https://forms.charitycommission.gov.uk/

Mae seiberdroseddwyr yn dod yn fwyfwy soffistigedig a strategol. Mae gwybodaeth a chanllawiau cysylltiedig ar gael yma: https://www.ncsc.gov.uk/section/information-for/individuals-families

Yn ddiweddar, lansiodd Gofal Cymdeithasol Cymru fframwaith hyfforddi a safonau newydd ar gyfer diogelu.

Mae Cyngor Sir Powys wedi comisiynu hyfforddiant i fodloni’r gofynion gan ddechrau ym mis Mai 2024.

Argymhellir bod yr holl staff sy’n gweithio yn y trydydd sector a’r sector gwirfoddol – gan gynnwys gwirfoddolwyr – cwblhau modiwl hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol ar-lein. Dylai hyn gymryd hyd at ddwy awr. Dysgu mwy yma.  

Gallwch adolygu Cod Ymarfer CGGC yma.

Dylai unrhyw sefydliad sy'n gweithio gyda phlant neu bobl agored i niwed sicrhau eu bod yn ymchwilio'n drylwyr i'w rhwymedigaethau cyfreithiol. Dysgu mwy yma.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity