Bydd Amser yn cael ei lansio’n swyddogol ac ar agor i geisiadau ym mis Ionawr 2023, gyda’r bwriad o ddarparu cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 erbyn mis Ebrill 2024. O’r herwydd, bydd y cyfnod cyflwyno ceisiadau cychwynnol rhwng Ionawr a Chwefror 2023. Bydd mudiadau’n gallu gwneud cais am gyllid blwyddyn neu ddwy flynedd.
Bydd Amser ar agor i fudiadau trydydd sector ac o’r herwydd byddem yn croesawu eich cefnogaeth yn hyrwyddo’r cyfle hwn. Bydd gennym becynnau cais yn barod erbyn canol Ionawr, ond gan fod y cyfnod gwneud cais cychwynnol yn un byr, roeddem yn awyddus i rybuddio mudiadau trydydd sector yn awr fod y cyfle hwn ar y ffordd.
Allech chi os gwelwch yn dda naill ai rannu’r daflen atodedig, neu gyfeirio mudiadau sydd eisiau gwybod mwy at y wefan:
https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/rhaglen-amser-2023-24