Mae HOPE a phartneriaid y prosiect yn cynnal digwyddiad lles y gwanwyn yn Amgueddfa Y Gaer yn Aberhonddu ar 21 Mawrth 2024, 10.00 - 14.00.
Os ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn, neu’n gofalu am rywun sy’n 50 oed neu’n hŷn, ewch draw i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, gan gynnwys: eiriolaeth; cyngor ar fudd-daliadau; cymorth tai; diogelwch cymunedol; a chyngor arbed ynni.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Luc-Antoine Bonte ar 07943 186 766 neu e-bostiwch: lucantoine.bonte@agecymru.org.uk