Mae eleni’n nodi 75 mlynedd ers i’r Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol gael ei fabwysiadu gan Aelodau’r Cenhedloedd Unedig, moment arwyddocaol sydd wedi ysbrydoli gweithredu ledled y byd, rhywbeth a amlygwyd ym mlog diweddaraf y Comisiynydd.
Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, mae’n hanfodol ein bod ni’n canfod ffyrdd o sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd gadarnhaol ac ymarferol i’n hamddiffyn a’n cefnogi yn ein bywydau bob dydd, rhywbeth sy’n arbennig o bwysig wrth i ni fynd yn hŷn, pan fydd angen rhagor o wasanaethau a chymorth arnom ni.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnal gweminar i drafod beth
gellir ei wneud yma yng Nghymru i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yn well – a allai gynnwys deddfwriaeth hawliau dynol sy’n benodol i Gymru neu Fil Hawliau Pobl Hŷn – ac i ystyried y rôl y gallai gweithredu ar lefel ryngwladol, fel Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Hŷn, ei chwarae wrth fwrw ymlaen â’r agenda hawliau dynol.
Drwy ddod â phobl hŷn, arbenigwyr hawliau a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd, mae’r Comisiynydd eisiau ysbrydoli cyfranogwyr i feddwl yn wahanol am hawliau pobl hŷn, ac annog datblygu dulliau ac arferion newydd – ar lefel strategol a gweithredol – sy’n seiliedig ar hawliau dynol.
I archebu eich lle, ewch i: UDHR75: Ysgrifennu’r bennod nesaf ar hawliau dynol yng Nghymru 1 Chwefror 2024
Cofiwch fod y cyfnod archebu ar gyfer y digwyddiad hwn yn cau ddydd Iau 25 Ionawr 2024