Bydd y sesiwn, a drefnir gan Dîm Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cyngor Sir Powys, yn cael ei gynnal drwy Microsoft Teams, ddydd Mawrth 21 Mawrth, rhwng 9.30-11am.
Y nod yw codi ymwybyddiaeth o gamfanteisio’n rhywiol ar blant a sut olwg sydd ar arwyddion o fregusrwydd a risg
Bydd y sesiwn yn edrych ar y broses o sut y gall camdriniaeth ddigwydd a pha gamau y gellir eu cymryd i ddiogelu plant a chefnogi eu hadferiad. Bydd hefyd yn cynnwys themâu sy’n esblygu megis camfanteisio troseddol ar blant a llinellau cyffuriau.
I gadw eich lle ewch i hunan-wasanaeth TRENT (staff y cyngor) neu e-bostiwch: practice.development(at)powys.gov.uk
Am ragor o wybodaeth am Stop It Now! Wales ewch i: https://www.stopitnow.org.uk/stop-it-now-wales/
Mae rhagor o sesiynau Cymuned Ymarfer gan y Tîm Camfanteisio ar Blant wedi’u trefnu ar gyfer:
- Dydd Iau 24 Mai, 9.30-11am
- Dydd Iau 21 Medi, 9.30-11am
- Dydd Llun, 16 Tachwedd, 9.30-11am