Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn ymuno â ni ochr yn ochr â Lynne Neagle MS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, Cymdeithas Alzheimer's Cymru a Lleisiau Dementia.
Bydd rhanbarthau Cymru yn arddangos arloesedd a gwelliant a bydd siaradwyr allweddol yn cyflwyno ystod o brosiectau ac ymchwil i gefnogi'r Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia a Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan.