Ap GIG Cymru: Helpu Eraill i fod Ar-lein - Dydd Mercher 20 Mawrth 10.00 - 11.30
Sesiwn hyfforddi i aelodau staff a gwirfoddolwyr i helpu pobl i ymgysylltu ag ap newydd GIG Cymru.
Bydd y sesiwn yn ymdrin â:
• Helpu pobl i fynd ar-lein a Deall rhwystrau i bobl ymgysylltu ar-lein
• Nodweddion sgiliau ac ap wrth ymgysylltu ag Ap GIG Cymru
• Defnyddio nodweddion Hygyrchedd digidol
• Bod yn ddiogel ar-lein
Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/nhs-wales-app-helping-people-to-get-online-tickets-806307175467?aff=oddtdtcreator
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg. Os hoffech chi gael mynediad i’r sesiwn gyda chyfieithydd Cymraeg, dewiswch ie ar y ffurflen gofrestru a byddant yn gwneud pob ymdrech i ddarparu un.
Offer Digidol i Gefnogi Pobl sy'n Byw gyda Dementia - Dydd Mawrth 26 Mawrth 14.00 - 15.30
Trosolwg o sut y gall offer digidol gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia mewn ffordd ddiogel. Mae’r sesiwn hon wedi’i datblygu ynghyd ag Effro sy’n gweithio gyda chymunedau yng Nghymru i newid canfyddiadau o ddementia.
Bydd y sesiwn yn:
• Cyflwyno'r cymorth sydd ar gael gan Gymunedau Digidol Cymru ac Effro.
• Trafod gweithgareddau hel atgofion a dull amlsynhwyraidd.
• Trafod pwysigrwydd cadw'n heini, yn gysylltiedig ac yn annibynnol.
• Cyflwyno offer digidol i gefnogi byw'n annibynnol a lles.
Cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/dcw-webinar-digital-tools-to-support-people-living-with-dementia-tickets-835631334817?aff=oddtdtcreator
Gweminar ar y cyd yw hon a gynhelir gan Gymunedau Digidol Cymru gyda siaradwr gwadd o Effro, a fydd yn cynnig cyngor ac arbenigedd ar y pynciau a drafodir.