Bydd y sesiynau ar-lein hyn ar gael i unrhyw un sy'n darparu gofal i bobl sy'n byw â dementia, ac sydd ddim yn teimlo'n hyderus i siarad Cymraeg â phobl sy'n byw gyda dementia. Mae nhw hefyd yn agored i bobl sydd heb unrhyw sgiliau Cymraeg ac maent yn tynnu sylw at ba gefnogaeth sydd ar gael iddynt i ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda dementia, os mae Cymraeg yw eu hiaith gyfathrebu.
Mae’r ddogfen atodedig yn egluro pwy mae'r sesiynau wedi'u hanelu atynt fel y gallwch ddewis y rhai iawn i chi.
Mae pob sesiwn yn para hanner awr. Gallwch chi fynychu cymaint ag y dymunwch. Bydd siaradwr, adnoddau defnyddiol a chyfle i ofyn cwestiynau yn ystod pob sesiwn.
Byddwn hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio i chi rhannu unrhyw beth rydych wedi'i wneud yn wahanol o ganlyniad i'r sesiynau, a thrafod unrhyw rwystrau a wynebwyd neu atebion y daethoch o hyd iddynt.
Gweler isod am y ddolen i gofrestru.
Dementia a'r Iaith Gymraeg Sesiwn 1 - 4
ddydd Llun 27ain Medi (13:00 i 16:00)
Dementia a'r Iaith Gymraeg Sesiwn 5 - 8
ddydd Llun 18 Hydref (10:00 i 13:00)
Dementia a'r Iaith Gymraeg
Sesiwn gydgrynhoi ar dydd Mawrth 16 Tachwedd (13:00 i 15:00)