Mae’r dyddiadau nesaf fel a ganlyn: Dydd Mercher 18 Hydref, 9.30am-12.30pm, neu ddydd Mercher 22 Tachwedd, 9.30am-12.30pm.
Mae’n cynnwys cyflwyniad i hunan-ofal ac arfau, adnoddau a sgiliau hunan-drugaredd, ac i seicoleg gadarnhaol a ‘dangos diolchgarwch’, gyda’r nod o “adfer cydbwysedd a harmoni a byw’n fwy esmwyth”.
I ddysgu mwy ac i archebu lle, cysylltwch â Nikki Thomas-Roberts, Phoenix Mindful Living, ar: phoenixmindfulliving(at)gmail.com
Mae’r gwaith yma’n cael ei gyllido gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys, sy’n cynnwys ystod o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), sy’n cydweithio i wella iechyd a llesiant trigolion y sir. Mae hyn yn cynnwys helpu gofalu am y sawl sy’n cyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal i eraill.