Sesiynau Gwybodaeth Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Mae’r sesiynau yma yn agored i staff rheng flaen sy’n wynebu’r cyhoedd sydd â diddordeb proffesiynol mewn cefnogi dinasyddion yr UE

Dyma wahoddiad i chi i gyfres o sesiynau Zoom ar-lein, a gynhelir gan EYST mewn partneriaeth â phum partner darparu gwasanaeth; TGP Cymru, MIND Casnewydd, Cyngor ar Bopeth Cymru, Settled a Newfields Law.  Mae’r sesiynau yma yn agored i staff rheng flaen sy’n wynebu’r cyhoedd sydd â diddordeb proffesiynol mewn cefnogi dinasyddion yr UE.  Maent wedi eu hanelu at hysbysbu’r rhai sy’n mynychu am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Didinasyddion yr UE, materion sy’n gysylltiedig â’r cynllun yn ogystal â llwybrau at gefnogaeth wedi’i deilwra a fydd yn eu galluogi i gyfeirio ac atgyfeirio cleientiaid i’r gwasanaeth briodol yn ôl eu hanghenion.     

Fel rheol, bydd angen i ddinasyddion yr UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu’r Swisdir, a’u teuluoedd sydd am aros yn y DU tu hwnt i 31 Rhagfyr 2020  wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i ddinasyddion yr UE  Llywodraeth y DU. 

Gall dinasyddion yr UE/AAE/Swisdir a’u teuluoedd sydd wedi preswylio’n barhaus yn DU am bum mlynedd ar gyfer unrhyw gyfnod hyd at ddiwedd 31 Rhagfyr 2020 wneud cais am statws sefydlog. Mae derbyn statws sefydlog yn sicrhau hawliau i fyw, gweithio, astudio a chael budd-daliadau a/neu fynediad i wasanaethau yn y DU.  Bydd y rheiny sydd heb breswylio’n barhaus am bum mlynedd yn gymwys am statws cyn-sefydlog.  Dim ond prawf o breswylio am un diwrnod yn y DU yn y 6 mis diwethaf sydd ei angen ar gyfer statws cyn-sefydlog

Bydd y sesiynau gwybodaeth yn dilyn y strwythur canlynol: cyflwyniad o’r Cynllun EUSS, a fydd yn cynnwys cyflwyniad gan pob partner i’w sefydliadau a manylu ar y gwasanaethau sydd ar gael, ac yn olaf, cyfle i drafod unrhyw faterion penodol mewn sesiwn holi ac ateb.

5 munud         Croeso & Chyflwyniadau

30 munud       Cyflwyniad ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i ddinasyddion yr UE: ‘Beth yw’r Cynllun a sut i wneud cais’

20 munud       Sesiwn Holi ac Ateb Agored

5 munud         Diwedd

Bydd gennych yr opsiwn i gofrestru ar gyfer unrhyw un o’r pedwar digwyddiad.  Dewiswch amser a dyddiad sy’n gyfleus i chi.  Gweler dyddiadau a’r dolenni cofrestru isod:

Dydd Llun, 23 Tachwedd, 10:30 AM-12:00 PM

Cliciwch yma i gofrestru

Mercher, 9 Rhagfyr, 2:00 PM-3:00 PM

Cliciwch yma i gofrestru

Mercher, 16  Rhagfyr, 2:00 PM-3:00 PM

Cliciwch yma i gofrestru  

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity