Bydd Chloe yn siarad am ei rôl a'r cymorth y mae'n ei roi, gan ganolbwyntio'n benodol ar anatomi cymal y ben-glin a phroblemau pen-glin cyffredin. Bydd hefyd yn rhannu gwybodaeth am ymarferion cryfhau a symud, awgrymiadau da a sut i gael gafael ar gymorth pellach. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau. Mae croeso i bawb! Cofrestrwch yn Eventbrite: https://KneeTherapyInfoSession.eventbrite.co.uk
Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy'n cefnogi pobl sy'n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol.
Ddydd Mawrth, Mai 17 (10:30-11:30yb)