Ar-lein dros Teams 10.30 yb – 11.30 yb.
Ymunwch gyda ni am sgwrs ar declynnau ac addasiadau sy’n helpu pobl sy’n byw gydag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol.
Bydd cyfle ichi ofyn cwestiynau’n ogystal. Mae croeso mawr i bawb!
Cofrestrwch ar Eventbrite: Eventbrite link
Ystafell yn agor am 10.20yb, mae'r cyflwyniad yn dechrau am 10.30yb. Byddwch ar amser.
Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy'n cefnogi pobl sy'n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol.