Gweminar Rheoli Risg a Thrawma ar ôl Troseddau Rhyw Ar-lein yn cael ei chynnal ddydd Gwener 17 Tachwedd 2023 rhwng 9.30 a 10.30 yn y bore.
Bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn rhan o raglen ranbarthol Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu.
Mae’r gweminar ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion ar draws yr holl wasanaethau y mae eu rolau a’u cyfrifoldebau’n cynnwys diogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.
Gweler y ddogfen atodedig i gadw eich lle.