Cynigir y rhaglen gan Care First sy’n cyflogi cwnselwyr proffesiynol cymwys ac arbenigwyr gwybodaeth. Mae ganddynt brofiad o helpu pobl i ddelio â phob math o faterion ymarferol ac emosiynol sy'n gysylltiedig â lles, materion teuluol, perthnasoedd, rheoli dyledion, y gweithle, a llawer mwy.
Er mwyn helpu rheolwyr i ddeall yn well y gwasanaethau sydd ar gael i'w staff ac iddyn nhw fel rheolwyr, bydd gweminar ar 17 Chwefror 2021 am 3.30pm (am un awr gan gynnwys cyfle i ofyn cwestiynau).
Mae'r gweminar hon ar agor i reolwyr mewn gofal cymdeithasol o'r sectorau preifat a gwirfoddol yng Nghymru. I logi lle ar y gweminar cliciwch ar y ddolen isod https://register.gotowebinar.com/register/6096804483121666061
Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu'r wybodaeth hon gyda sefydliadau perthnasol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch EAPqueries(at)gofalcymdeithasol.cymru