Dydd Llun 7 Tachwedd
14.30 – 16.00
Cadeirydd:
Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Conffederasiwn GIG Cymru
Siaradwyr:
Sally Lewis, Rheolwr Rhaglen Y Celfyddydau, Iechyd a Lles, Cyngor Celfyddydau Cymru
Dr Clive Grace O.B.E, UK Research and Consultancy Services
Harriet Lowe, Swyddog Ymchwil a Chyfathrebu, Sefydliad Baring
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad Lles Cymru nesaf Conffederasiwn GIG Cymru.
Nod y weminar hon yw codi ymwybyddiaeth o’r effaith y mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn ei gael ar iechyd a lles, yn cynnwys cleifion a staff y GIG. Bydd yn gyfle i ddysgu mwy am elfennau ymarferol sefydlu gweithgareddau creadigol i wella iechyd a lles y boblogaeth a beth arall y gallwch ei wneud yng Nghymru i ddwyn hyn ymlaen.
Bydd amrywiaeth o siaradwyr yn trafod sut mae Cymru’n arwain y ffordd yn sefydlu’r celfyddydau a chreadigrwydd ar draws y GIG. Byddwch yn clywed gan Sally Lewis am yr amrywiaeth o raglenni y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi eu datblygu a’u nodau strategol allweddol. Bydd Dr Clive Grace OBE, o UK Research and Consultancy Services, yn rhoi trosolwg o’r adroddiad gwerthuso diweddar, a gomisiynwyd gan Gonffederasiwn GIG Cymru, ar yr effaith y mae cydlynwyr y celfyddydau ac iechyd ym mhob bwrdd iechyd wedi ei gael ar ganlyniadau cleifion a staff. Yn olaf, bydd Harriet Lowe yn rhoi mewnwelediad i’r mentrau allweddol y mae Sefydliad Baring yn eu cefnogi yma yng Nghymru a’r hyn y gallwn ei ddysgu gan wledydd eraill.
Os ydych ar Twitter, tagiwch ni gan ddefnyddio @WelshConfed a’r hashnod #LlesCymru.
Cynhelir y digwyddiad ar Zoom a chaiff ei recordio a’i rannu ar sianel YouTube Conffederasiwn GIG Cymru, y cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyr