Cynhelir ail seminar Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru ar y thema O Ymfudo i Wydnwch ar-lein drwy Zoom ddydd Mercher 21 Chwefror 2024, 5.00yh tan 6.30yh.
I sicrhau eich lle, archebwch drwy ddilyn y ddolen isod: https://ti.to/digital-past/o-fudo-i-wydnwch
Mae'r seminarau misol yn darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth ehangach am gydraddoldeb, mudo, gwytnwch, hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth.
Prif siaradwyr:
Ein prif siaradwyr ni yw’r awduron Amrit Wilson a Bharti Dhir. Bydd y ddau yn siarad am eu profiadau personol a phroffesiynol ‘o fudo i wydnwch’.
Mae Amrit Wilson yn newyddiadurwraig arobryn ac yn ymgyrchydd ar faterion hil a rhywedd ym Mhrydain ac ar wleidyddiaeth De Asia. Mae hi’n un o sylfaenwyr y South Asia Solidarity Group ac ‘Awaaz’ – grŵp o ferched a oedd ar flaen y gad yn y frwydr dros hawliau i ferched Asiaidd yn y 1970au a’r 1980au. Cyhoeddwyd llyfr arloesol Amrit, ‘Finding a voice’, yn 1978 ac roedd yn cofnodi profiadau merched Asiaidd o gariad, priodas, perthnasoedd, cyfeillgarwch yn ogystal ag o hiliaeth ym maes tai, addysg ac o ran y gyfraith.
Mae Bharti Dhir yn weithiwr cymdeithasol cymwys sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant ac yn awdur ‘Worth‘, sef cofiant Bharti fel menyw Affricanaidd-Asiaidd a fabwysiadwyd i deulu Pwnjabi, Sikhaidd, a’i stori am oresgyn hiliaeth, rhywiaeth, problemau iechyd a dianc o Uganda yn 1972 pan aeth Idi Amin ati i alltudio Asiaid. Bydd Bharti yn siarad am ei phrofiadau personol o oresgyn cael ei gadael, gwahaniaethu, ac adfyd i ddod o hyd i gryfder mewnol a hunan-werth i lunio ei ffawd.