Mae Cynnal Cymru – Sustain Wales yn falch iawn o gynnig llefydd rhad-ag-am-ddim, ar eu cwrs Eco-llythrennedd Nabod Natur i un rhywun sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda grŵp cymunedol neu fudiad gwirfoddol.
Mae Nabod Natur - Nature Wise yn rhaglen hyfforddiant ar-lein sy’n eich dysgu sut y mae’r amgylchedd naturiol yn gweithio, y bygythiadau y mae’n wynebu a sut y gall bawb helpu natur i ffynnu.
**mae’r cwrs nawr ar gael trwy’r cyfrwng Gymraeg **
Bydd cyfranogwyr yn dysgu am systemau naturiol, y pwysau arnynt a’r fframweithiau gweithredu. Byddant hefyd yn datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer eu hunain neu eu grwpiau, gan ddefnyddio eu gwybodaeth er budd bywyd gwyllt a chynefinoedd Cymru a thu hwnt.
Cynhelir 10 cwrs o fis Ebrill 2023 hyd at Awst 2023, a bydd y cyfranogwyr yn mynychu dwy sesiwn ar-lein, gyda chyfanswm ymrwymiad o 5 awr. Bydd y rhai sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn derbyn tystysgrif.
Mae cyn-fynychwyr Nabod Natur o bob cefndir wedi dweud bod y cwrs wedi rhoi iddynt yr ysgogiad i gynnwys camau gweithredu adfer-natur yn eu bywydau dyddiol. Mae hefyd wedi rhoi yr hyder iddynt i rannu mewnwelediad a gwybodaeth ynghylch yr argyfwng natur gyda’r bobl o’u cwmpas. Roedd gwirfoddolwr o Lwybr Natur yr Hendy wedi esbonio bod y cwrs wedi “taflu goleuni ar, a rhoi iddi’r awydd am eirioli dros natur a chadwraeth”, tra bod Llysgennad Newid Hinsawdd Sefydliad y Merched wedi’i “chyffroi i rannu’r wybodaeth wych yma gyda’r aelodau, i’w hannog i fod yn fwy natur-gyfeillgar".
Mae llefydd am ddim ar gael diolch i gyllid o’r Moondance Foundation
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle cliciwch yma