Hoffem eich gwahodd i’n Digwyddiad Menter Gymdeithasol I Ofalwyr, 10.30-11.30, 30 Mawrth 2023.
Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno’r cyfleoedd y gall cydweithio drwy fentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol eu cynnig i gefnogi gofalwyr di-dâl yn eu rôl ofalu.
Byddwn yn esbonio beth yw mentrau cymdeithasol a bydd siaradwyr gwadd yn rhoi trosolwg o'r cymorth sydd ar gael i helpu i'w sefydlu.
Mae’r gweminar hwn ar gyfer gofalwyr di-dâl a’r rheini mewn awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector sydd â diddordeb mewn cefnogi gofalwyr di-dâl i sefydlu mentrau cymdeithasol.
Byddwn yn clywed gan Cwmpas, Busnes Cymdeithasol Cymru a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru.