Fe’ch gwahoddir i ddigwyddiad ar-lein ar Ddydd Iau 13 o Fai 2021 - 12.00pm - 1.30pm
Nid yw siarad am farwolaeth a marw yn hawdd - a ph'un bynnag, beth ydyn ni eisiau, neu angen, siarad amdano a chyda phwy? Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Materion Marwolaeth (10-16 Mai 2021) ac mae'n gyfle i edrych ar pam y mae mor bwysig i greu cyfleoedd i'r rheini sy'n agos at ddiwedd eu hoes i siarad amdano.
Byddwn ni'n clywed gan dri siaradwr am brosiectau peilot ym Myrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, lle y caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi a'u cefnogi i dreulio amser gyda chleifion diwedd oes a gofal lliniarol, er mwyn bod yn gwmni iddynt a sgwrsio â nhw. Bydd sgyrsiau mewn ystafelloedd trafod yn trafod yr hyn y gellir eu dysgu o'r rhain a sut gallwn ni alluogi sgyrsiau pwysig, gyda'r bobl iawn ac ar yr amser iawn.
Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu ar y cyd gan Cymru Garedig a Helpu Cymru gydag CGGC. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb yn y pwnc hwn, waeth a ydynt yn weithwyr proffesiynol, yn fudiad gwirfoddol neu'n cyflwyno safbwynt cymunedol.