Mewn partneriaeth ag Academi Dysgu Dwys Cymru ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, bydd digwyddiad eleni yn adeiladu ar lwyddiant digwyddiad ar-lein y llynedd, ond caiff ei gynnal fel digwyddiad wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe, rhwng 5 a 9 Rhagfyr a bydd pryd o fwyd gyda'r hwyr ar 7 Rhagfyr yn neuadd hanesyddol, Neuadd Brangwyn.
Mae cymryd amser i gamu'n ôl a meddwl, rhannu arferion arloesol a chael cymorth gan gymheiriaid ac arbenigwyr i fynd i'r afael â'ch her bersonol chi yn hynod werthfawr wrth geisio gwneud ein gwasanaethau'n rhai sy'n addas at y dyfodol. Mae'r wythnos hon yn rhoi'r cyfle hwnnw i chi herio, newid a hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio yn ogystal â meddwl am ddilyniant gyrfa a datblygiad personol.
Dyma Gyfle unigryw i chi:
- Gwrdd ag arbenigwyr rhyngwladol ym maes iechyd a gofal a dysgu ganddynt
- Rhannu meddwl arloesol ac arfer gorau gydag arweinwyr iechyd a gofal
- Camu'n ôl o waith dydd i ddydd a chael cymorth i ddatblygu atebion i heriau eich gweithle chi
Pwy ddylai gymryd rhan?
- Gweithwyr iechyd a gofal ar bob lefel yn y systemau iechyd a gofal, llywodraeth leol a'r trydydd sector
- Pobl sy'n gweithio mewn cwmnïoedd neu sefydliadau ar gynnyrch, gwasanaethau neu flaenoriaethau iechyd a gofal
Costau
Telir ffioedd llawn unigolion sy'n gweithio yn y byd iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector yng Nghymru drwy ysgoloriaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Bydd unigolion sy'n gweithio ar wasanaethau neu gynnyrch iechyd a gofal yn y sector preifat neu’r tu hwnt i Gymru hefyd yn elwa o'r cyfle unigryw hwn ac maen nhw'n cael eu hannog i gymryd rhan. Y gost ar gyfer cymryd rhan yw £1,500.