Gall oedraniaeth hefyd olygu y gwahaniaethir yn erbyn pobl hŷn pan fyddant yn ceisio defnyddio’r gwasanaethau, y cyfleusterau a’r cyfleoedd y mae eu hangen arnynt i’w helpu i heneiddio’n dda.
Cyn pandemig Covid-19, roedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn darparu sesiynau hyfforddiant i bobl hŷn a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw er mwyn helpu i ganfod a herio oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed. Mae’r hyfforddiant wedi cael ei addasu nawr i fod yn sesiwn ar-lein yn benodol ar gyfer pobl hŷn
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal dros Zoom a bydd yn para am ddwy awr yn cynnwys egwyl. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar 29 Mehefin 11yb-1yp.
Os ydych chi dros 60 mlwydd oed a hoffech archebu lle yn y sesiynau, defnyddiwch y ddolen isod:
https://tocyn.cymru/event/606d8f1f-ec1b-4d87-9d44-680c2c35f276/s
Mae’r Comisiynydd hefyd wedi datblygu taflen wybodaeth newydd - Gweithredu yn Erbyn Oedraniaeth - sy’n cynnwys ystod eang o wybodaeth am sut i adnabod a herio oedraniaeth a rhagfarn ar sail oedran. Os hoffech chi gael copïau o’r daflen, yna gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
Rydyn ni hefyd yn datblygu hyfforddiant i’r rheini sy’n gweithio gyda phobl hŷn a byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am hyn pan fydd ar gael.