Hyfforddiant gwytnwch
Mae'r atodiad i'r e-bost hwn yn darparu manylion llawn yr hyfforddiant ond i grynhoi, mae i ddarparu rhaglen bwrpasol o hunan-fyfyrdod a dysgu cyfoed i hwyluswyr profiadol gyda'r buddion canlynol:
• Meddwl llawer cliriach, yn rhydd o annibendod, amheuaeth a phryder
• Teimlad o fod â mwy o reolaeth ac yn gallu gwneud penderfyniadau yn haws
• Y gallu i fownsio'n ôl o rwystrau yn gyflym ac yn llyfn
• Perthynas fwy cysylltiedig â chydweithwyr, cleientiaid, ffrindiau a theulu
• Ymdeimlad newydd o bwrpas, ffocws a thawelwch meddwl
Mae'n bwysig pwysleisio mai rhaglen 6 wythnos yw hon, bob wythnos yn cynnwys un sesiwn 90 munud felly byddem yn disgwyl i bob rheolwr sy'n ymuno â'r rhaglen ymrwymo i fynychu'r rhaglen gyfan h.y. 6 x sesiwn 90 munud - mae manylion llawn y disgwyliadau wedi'i gynnwys yn yr atodiad - darllenwch hwn cyn archebu lle.
Rydym yn rhedeg dwy garfan gydag 14 lle ar bob un, a bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Yn ychwanegol gallwch eu harchebu trwy ddilyn y ddolen hon.
Carfan 1 https://www.eventbrite.co.uk/e/welsh-reconnect-to-innate-resilience-cohort-1-tickets-214679200267
Carfan 2 https://www.eventbrite.co.uk/e/214682710767
Hyfforddiant cymorth profedigaeth (Marie Curie)
Mae gan y rhaglen hon y canlyniadau dysgu canlynol:
• Deall colled a'i effaith ar unigolion
• Teimlo'n fwy cymwys i gael sgyrsiau anodd ynghylch galar a phrofedigaeth gyda staff
• Gwybod sut i gydnabod yr effaith bosibl arnynt eu hunain, wrth gefnogi staff trwy golled a phrofedigaeth a rhoi cymorth ac arweiniad ar beth i'w
wneud
• Wedi gwerthfawrogi pa gymorth ychwanegol sydd ar gael a ble i ddod o hyd i sefydliadau cymorth eraill yng Nghymru
Digwyddiad un sesiwn yw hwn sy'n parhau 90 munud ond mae'n rhedeg ar 4 achlysur gwahanol gyda 30 lle ar bob digwyddiad. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, a gellir eu harchebu trwy ddilyn y ddolen hon. https://www.eventbrite.co.uk/e/hyfforddiant-cymorth-profedigaethbereavement-support-training-tickets-214684977547
Mae gan y ddau ddigwyddiad leoedd cyfyngedig felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud pob ymdrech i ddod ar ôl i chi archebu'r lle. Os oes angen i chi ganslo'r lle, yna rhowch wybod i ni fel y gallwn gynnig y lle i rywun arall.
Bydd y ffurflenni archebu yn parhau i gymryd archebion hyd yn oed pan fyddant yn llawn, fel y gallwn adeiladu rhestr wrth gefn ac o bosibilrwydd cynnal digwyddiadau pellach yn y dyfodol os yw'r galw am leoedd yn ddigonol
Os oes gennych unrhyw ymholiadau yna e-bostiwch eapqueries(at)socialcare.wales