Mae oedraniaeth yn sail i nifer o’r problemau mae pobl hŷn yn eu hwynebu ar hyn o bryd, ac mae’n arwain at stereoteipiau negyddol, at bobl hŷn yn cael eu trin yn annheg, ac at beidio â pharchu a chynnal eu hawliau.
Gall oedraniaeth hefyd olygu y gwahaniaethir yn erbyn pobl hŷn pan fyddant yn ceisio defnyddio’r gwasanaethau, y cyfleusterau a’r cyfleoedd y mae eu hangen arnynt i’w helpu i heneiddio’n dda.
Cyn pandemig Covid-19, roedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn darparu sesiynau hyfforddiant i bobl hŷn a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw er mwyn helpu i ganfod a herio oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed. Mae’r hyfforddiant wedi cael ei addasu nawr i fod yn sesiwn ar-lein yn benodol ar gyfer pobl hŷn.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal dros Zoom a bydd yn para am ddwy awr yn cynnwys egwyl.
Os hoffech archebu lle yn yr sesiynau, dychwelwch y ffurflen archebu sydd ynghlwm i post(at)olderpeoplewales.com.
Mae’r Comisiynydd hefyd wedi datblygu taflen wybodaeth newydd - Gweithredu yn Erbyn Oedraniaeth - sy’n cynnwys ystod eang o wybodaeth am sut i adnabod a herio oedraniaeth a rhagfarn ar sail oedran. Os hoffech chi gael copïau o’r daflen, yna gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.