Os felly, gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddysgu mwy am yr hawliau sydd gennym ni pan fyddwn ni’n byw mewn cartref gofal ac sy’n ein helpu a’n diogelu ni, yn ogystal ag yn ein helpu ni i sicrhau ein bod yn cael gofal o safon uchel.
Ymunwch â Thîm Cyngor a Chymorth y Comisiynydd er mwyn ymuno â sesiwn rhannu a thrafod gwybodaeth i ddysgu mwy am yr hawliau hyn. Byddwch chi hefyd yn dysgu mwy am beth gallwch chi ei wneud os nad ydych chi’n credu bod hawliau rhywun mewn cartref gofal yn cael eu cynnal, ac ymhle gallwch chi gael cymorth a chefnogaeth.
Mae llefydd yn brin, felly archebwch eich lle nawr: https://tocyn.cymru/event/ea53e573-9d85-46bb-9f09-9c5e16aeb541/s
Os nad ydych chi’n gallu ymuno â’r sesiwn hon, ond eich bod yn awyddus i ddysgu mwy am hawliau mewn cartrefi gofal, mae modd i chi lawrlwytho llyfryn gwybodaeth y Comisiynydd ‘Byw mewn cartref gofal yng Nghymru: Canllaw i’ch hawliau’ yn y fan hon - https://comisiynyddph.cymru/adnodd/comisiynydd-yn-lansio-canllaw-newydd-ar-hawliau-pobl-hyn-mewn-cartrefi-gofal/ - neu ffoniwch 03442 640 670 os ydych chi’n dymuno cael copi caled o’r llyfryn.