Gwrando a chael sgyrsiau tyner gyda Dr Kathryn Mannix.

Beth sy’n digwydd pan fyddwn wir yn gwrando ar rywun, yn rhoi ein holl sylw iddynt gyda thynerwch a thosturi, ac yn eu galluogi i siarad am yr hyn sydd bwysicaf?

Mae Cymru Garedig wrth ei fodd yn eich gwahodd i Sgwrs gyda Dr Kathryn Mannix Dydd Mercher, 4 Mis Mai 2022,18:00 – 19:00 

. Mae’r weminar sy’n dwyn y teitl Gwrando a chael sgyrsiau tyner yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn wir yn gwrando ar rywun, yn rhoi ein sylw i gyd iddynt gyda thynerwch a thosturi, ac yn eu galluogi i siarad am yr hyn sydd bwysicaf.

Dyma pwy fydd aelodau ein panel:

Dr Kathryn Mannix: ar ôl gweithio ym maes gofal lliniarol am 30 mlynedd mewn ysbytai, timau ac ysbytai cymunedol, gwnaeth hi ymddeol yn gynnar er mwyn gweithio i wella dealltwriaeth y cyhoedd o farwolaeth. Mae’n ysgrifennu, darlithio a darlledu’n eang yn y DU a thu hwnt; cyrhaeddodd ei llyfr cyntaf  ‘With the End in Mind’ restr fer y Wellcome Book Prize a bu’n llyfr y flwyddyn yn y Times. Derbyniodd ei hail lyfr ‘Listen: how to find the words for tender conversations’ ganmoliaeth fawr pan gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2021. Mae’n dal i ddod dros y syndod.

Dr Idris Baker: Mae Idris wedi bod yn Ymgynghorydd Meddygaeth Liniarol yn Abertawe ers 17 mlynedd.  Mae’n Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru, mae’n gadeirydd y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd at addysg yng Nghymru ac ar bynciau gofal lliniarol a moeseg glinigol mewn mannau eraill. Mae’n mwynhau dadl, ac yn ymhyfrydu yn y ffaith iddo gael ei gyhuddo gan un gwrthwynebydd yn y wasg o fod yn ‘wirioneddol ddrwg’.

Lesley Howells: Mae Lesley yn Brif Seicolegydd ac yn Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol yn Maggie’s. Mae Maggie’s yn darparu cymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol am ddim i bobl â chanser a’u teuluoedd a’u ffrindiau, sy’n dilyn y syniadau ynghylch gofal canser a nodwyd yn wreiddiol gan Maggie Keswick Jencks. Mae gan ganolfannau Maggie’s, sydd wedi’u hadeiladu ar diroedd ysbytai canser y GIG, staff proffesiynol wrth law i gynnig y cymorth sydd ei angen ar bobl.

Dr Justine McCullough:  Mae diddordeb Justine yn y drafodaeth a'i pharodrwydd i siarad yn y drafodaeth yn seiliedig ar ei phrofiad o ofalu am ei thad a fu'n byw gyda Chlefyd Niwronau Echddygol cychwynnol am ddwy flynedd cyn marw yn 59 oed. Roedd ei thad yn awyddus iawn i fyw er gwaethaf ei symptomau a oedd yn datblygu. Bu Justine a’i theulu yn gefn iddo, ac ar y diwedd, roeddent yn gofalu amdano gartref pan oedd ar beiriant anadlu.

Mwy o fanylion ac archebu via Eventbrite - Listening and having tender conversations with Dr Kathryn Mannix

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity