Bydd hon yn sesiwn i rannu gwybodaeth a chyngor ar arbed ynni yn eich cartref a'ch gwaith ac arbed arian ar filiau tanwydd.
Bydd Cymru Gynnes yn arwain y sesiwn hon ar-lein dydd Gwener 11 Tachwedd 11:30 – 12:30 ac yn rhannu gwybodaeth am arbed costau ar gyfer defnyddio ynni. Bydd y sesiwn hon yn ddefnyddiol i unrhyw un sy'n gweithio yn y sector o safbwynt proffesiynol a phersonol. Os hoffech fynychu neu os hoffech ragor o wybodaeth archebwch eich lle trwy’r ddolen isod.