Canolfan Cymorth Casineb Cymru (Cymorth i Ddioddefwyr) mewn partneriaeth â Thîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De Orllewin Cymru yn falch o gyflwyno Gweminar Pŵer Iaith newydd.
Yng Nghanolbarth a De Orllewin Cymru, mae'r cymunedau rydyn ni'n byw ynddynt yn newid yn barhaus, ac yn ei thro, felly hefyd yr iaith a ddefnyddiwn.
Mae geiriau'n llunio syniadau, pobl a'r gymdeithas rydyn ni'n byw ynddi.
Mae’r gweminar hwn ar 25 Ebrill, 14.00 – 15.30, yn archwilio sut mae’r geiriau a’r iaith a ddefnyddiwn mewn bywyd bob dydd yn effeithio ar bobl, diwylliant a chymdeithas – gan ddylanwadu ar gymunedau modern yng Nghymru a’u llywio.
Ebost COMCommunityCohesion(at)carmarthenshire.gov.uk am fwy o wybodaeth ac i gadw eich lle. Mae archebu lle yn hanfodol.
Mae'r gweminar hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol a bydd yn cael ei chynnal ar Zoom.