Mae camau cadarnhaol yn cael eu cymryd yma yng Nghymru i hyrwyddo'r cynllun Hyderus o ran Anabledd, ond gwyddom y gellir gwneud mwy i gynyddu nifer y cyflogwyr sy’n dod yn Hyderus o ran Anabledd a'r rhai sy'n symud ymlaen drwy'r cynllun. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi croesawu'r adborth gan randdeiliaid o Gymru ar beth arall y gellir ei wneud yng Nghymru, ac maent yn awyddus i agor y drafodaeth hon ymhellach.
O ganlyniad, mae swyddogion o’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cynnig cynnal dwy sesiwn ddydd Iau 18 Mawrth, un yn y bore ac un yn y prynhawn.
Felly, fe'ch gwahoddir i gyfarfod bord gron rhithiol i randdeiliaid i drafod nodau ac uchelgeisiau'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.
Bydd y sesiwn yn cael ei hwyluso gan Dîm Polisi Hyderus o ran Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau: Amanda Wadsworth MBE DL a Julie-Ann Williams. Cewch gyfle i ofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau o ran sut gall y cynllun weithredu yn y dyfodol.
Os hoffech fod yn bresennol, rhowch wybod i Eryl Loring erbyn ddydd Gwener 12 Mawrth gan nodi eich argaeledd ar gyfer y ddwy sesiwn. Mae croeso i chi rannu'r gwahoddiad hwn â phartneriaid ehangach a allai fod â diddordeb.
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau’r niferoedd terfynol, fe wnawn anfon dolen atoch i gyfarfod Teams.