Cafodd ei rhyddhau ym mis Medi 2022, ac mae wedi cael ei gwylio 2,802 o weithiau hyd yma, gyda gweithwyr proffesiynol, ymarferwyr a phobl sy’n byw gyda dementia i gyd yn cytuno bod hon yn ffilm sydd angen ei gweld yn ehangach.
Roedd y ddrama wreiddiol wedi pwyso ar dystiolaeth ymchwil o raglen IDEAL (Canolfan Ragoriaeth Cymdeithas Alzheimer sy’n astudio sut i wella bywydau pobl â dementia ysgafn i gymedrol a’u gofalwyr sy’n byw yn y gymuned) yn ogystal â defnyddio profiad bywyd go iawn grŵp ymroddedig o ofalwyr a phobl sydd â dementia. Yn ogystal â’r perfformiadau, mae’r ffilm yn dangos yr ymarferion, ymateb y gynulleidfa a myfyrdodau’r rheiny a gymerodd ran yn y prosiect.
Bydd y dangosiad arbennig hwn yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhad ac am ddim, a bydd cyfle i drafod themâu’r ffilm. Bydd Dr Catherine Charlwood (Rheolwr Cyfieithu Ymchwil IDEAL) a’r Athro Charles Musselwhite (Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth, a Chyd-gyfarwyddwr CADR) wrth law i ateb cwestiynau a rhannu cyfleoedd ymchwil gyda chi.
Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg.
Ffilm trelar https://youtu.be/HXtF-POssGI
Lleoliad ac Archebu
Aberystwyth University Arts Centre Cinema, 2pm, 24th January 2023.
Cysylltwch â: https://uk.patronbase.com/_Aberystwyth/Sections/Choose?prod_id=6LC&perf_id=1