The Carers Wales Conference: Finding Solutions Tickets, Mon 13 Nov 2023 at 09:30 | Eventbrite
Mae dod o hyd i atebion i'r gefnogaeth orau i ofalwyr di-dâl yn hanfodol ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a chymdeithas yn gyffredinol gan ein bod yn dibynnu ar y gwaith di-ddiwedd i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
Mae Gofalwyr Cymru yn dod ag arbenigwyr o ddisgyblaethau lluosog ynghyd, gan gynnwys gofalwyr di-dâl eu hunain, i drafod beth yw’r arfer gorau i gefnogi gofalwyr, sut y gallwn ddysgu oddi wrth ein gilydd a sut mae gofal di-dâl yn effeithio ar bob llwybr o fywyd proffesiynol.
Rydym wrth ein bodd i gael cwmni Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, ynghyd â nifer o arbenigwyr proffil uchel gan gynnwys Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helen Wyley, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru, Alyson Thomas Prif Weithredwr Llais Cymru a Helen Walker, ac Prif Weithredwr Carers UK .
Byddwn hefyd yn lansio ystadegau newydd ynghylch iechyd ac iechyd meddwl gofalwyr di-dâl fel rhan o'n cyfres o ddatganiadau Cyflwr Gofalu yng Nghymru sy'n cael eu cynnal yn ystod yr hydref.
Bydd yma hefyd nifer o weithdai gan gynnwys ffocws ar ofal cymdeithasol, gofal iechyd, y Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr newydd a ddaw i rym ym mis Ebrill 2024 ac edrych ar sut y gall technoleg ac arloesedd gefnogi gofalwyr di-dâl.
Mae’n bleser gennym gynnig y gynhadledd hon mewn fformat hybrid gan wahodd y rhai sy’n gallu mynychu i ymuno â ni yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd tra hefyd yn cynnig profiad ar-lein cwbl integredig. Dewiswch y tocyn priodol wrth archebu.
Bydd hon yn gynhadledd ddi-bapur.
Sylwch fod y ffurflen archebu yn Saesneg yn unig oherwydd cyfyngiad o fewn y meddalwedd
Agenda
9.30am: Cofrestru yn agor
10.00yb: Croeso
10.05am: Agor y Gynhadledd: Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan
10.10am: Cyflwr Gofalu yng Nghymru: Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru
10.25am: Jayne Newman, Gofalwr Di-dâl ac aelod o'r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Ofalwyr
10.35am: Prif araith: Helena Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn
10.50am: Trafodaeth Panel Arbenigol:
Helen Whyley, Cyfarwyddwr Cymru, Coleg Brenhinol y Nyrsys
Helen Walker, Prif Swyddog Gweithredol, Carers UK
Alyson Thomas, Llais Cymru
Gofalwr di-dâl
12pm: Cinio, rhwydweithio ac arddangoswyr
1pm: Galwadau i weithredu: Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru
1.30pm: Gweithdai
Gweithdy 1: Gwella canlyniadau ymarferol ar gyfer gofalwyr di-dâl mewn Gofal Cymdeithasol
Jake Smith, Swyddog Polisi Gofalwyr Cymru
Gofal Cymdeithasol Cymru
Gweithdy 2: Deddf Absenoldeb Gofalwyr a goblygiadau i gyflogwyr a gofalwyr
Emily Holzhausen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Carers UK
Jane Healey, Rheolwr Cyflogwyr i Ofalwyr, Gofalwyr Cymru
Gweithdy 3: Sut y gellir cefnogi gofalwyr i ofalu am eu hiechyd eu hunain a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt -
Cymdeithas Brydeinig Dietegwyr y DU
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gweithdy 4: Defnyddio deallusrwydd artiffisial a thechnoleg i gefnogi Gofalu
Technoleg Iechyd Cymru
2.30pm Ailadrodd y gweithdai uchod
3.30pm Daw'r gynhadledd i ben gydag ymrwymiadau cynrychiolwyr