Mae Gofalwyr Cymru yn falch iawn ac yn gyffrous i gyhoeddi ein diwrnod lles rhithwir arbennig ar - lein cyntaf.
Bydd ein hail ddirwnod lles ar ddydd Sadwrn 27ain Chwefror a'n trydydd diwrnod lles fydd dydd Gwener 26ain Mawrth.
Hoffem wahodd gofalwyr di-dal i ymuno a ni i ddathlu'r gweithgareddau Ymwybodol yr ydym wedi'u cael ar ein sesiynau Me Time a rhannu'r profiad hwnnw a gofalwyr eraill yn yr un sefyllfa
Mae 'Amser i mi' yn gyfle i ofalwyr di-dâl wneud rhywbeth er eu mwynhad eu hunain. Mae'r sesiynau ar-lein hyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn fan lle gall gofalwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac archwilio cyfleoedd newydd nad ydyn nhw yn gallu eu gwneud fel arfer o bosibl. Byddwn yn gwneud pob math o bethau yn amrywio o wylio rhyfeddodau mawr y byd mewn grŵp, i gelfyddydau, cerddoriaeth, ymarfer corff, ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar a chymaint mwy.
Rydym yn cynnal diwrnod llawn o weithgareddau i gefnogi ymwybyddiaeth ofaglar a lles gofalwyr di - dal ar 29ain Ionawr 2021. Mae pob sesiwn yn unigol a gallwch ymuno a chynifer neu gyn lleied ag yn dymunwch. Nid oes raid i chi ymrwymo i'r diwrnod cyfan.
Bydd yr dirwnod yn edrych fel hyn:
• 10.00 - 11.20 - Ymwybyddiaeth ofalgar.
• 11.30 - 12.50 - Rheoli eich meddwl.
• 13.00 - 14.20 - Sessiwn Ioga Chwerthin – addas ar gyfer pob oedran a gallu.
• 14.30 - 15.50 - Sesiwn Dawns I Pawb – addas ar gyfer pob oedran a gallu.
• 16.00 - 17.20 - Ymwybyddiaeth ofalgar .
• 17.30 – 18.50 – Dosbarth Meistr ysgrifennu creadigol.
• 19.00 – 20.20 - Therapi Cysgu.
I ddarganfod mwy cliciwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/carers-wales-wellbeing-day-tickets-135986279623