Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phobl a theuluoedd o'r gymuned d/Byddar y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'r rhain wedi'u cynllunio i'ch cefnogi yn eich gwaith, yn enwedig os ydych chi'n datblygu dysgu yn eich sefydliad am ddementia a cholled clyw.
Bydd y canlyniadau dysgu newydd yn rhan o'r Fframwaith Dysgu a Datblygu Gwaith Da.
Bydd y sesiwn yn:
- Gwella'ch ymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o ddementia a cholled clyw
- Egluro'r canlyniadau dysgu newydd
- Eich cyfeirio at adnoddau defnyddiol
Mae'r sesiwn hon yn agored i unrhyw un ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd, gan gynnwys darparwyr trydydd sector a darparwyr annibynnol. Mae croeso hefyd i ofalwyr teuluol.
Bydd y sesiwn yn rhedeg am awr.
Archebwch eich lle yma https://www.eventbrite.co.uk/e/sesiwn-gwybodaeth-gwaith-da-good-work-information-session-tickets-395869124207