Beth bynnag yw lefel y wybodaeth flaenorol a gyflwynir gennych chi, dylai’r hyfforddiant fod yn fuddiol, a chroesewir yr holl brofiadau a geir.
Mae’r sesiynau yn parhau am ddwy awr ac fe’u rhennir rhwng cyflwyno gwybodaeth, clywed oddi wrth ofalwyr eu hunain ac yna gwahoddiad i gyfranogwyr ddechrau llunio cynllun gweithredu unigol. Maen nhw’n sesiynau llawn gwybodaeth, ond hefyd yn ddifyr, a chroesewir cyfraniadau yn y sesiynau!
Sefydliad trydydd sector yw Credu, sef Gwasanaeth Gofalwyr Powys yn flaenorol, sy’n cefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion sy’n ofalwyr yn y sir, gan ffurfio gweithlu di-dâl anhygoel.
Byddai staff Credu wrth eu boddau yn eich gweld yn dod ac yn trafod sut y gallwch gydweithio â hwy, a pha wybodaeth a chefnogaeth arall sydd gael i chi i’w defnyddio.
Dyddiadau hyfforddiant Ymwybodol o Ofalwyr
- Dydd Mawrth 1 Mawrth – 10am
- Dydd Gwener 11 Mawrth – 2pm
- Dydd Llun 14 Mawrth – 11am
- Dydd Mercher 23 Mawrth – 3pm
- Dydd Iau 31 Mawrth – 1pm
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o’r sesiynau am ddim hyn, trwy Microsoft Teams, anfonwch e-bost at Victoria Sharpe, Swyddog Cefnogi Prosiect gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: victoria.sharpe(at)wales.nhs.uk