Symudodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda grwpiau o staff i Ganolfannau Gofal Integredig Hywel Dda yn Aberaeron ac Aberteifi. Yn dilyn y symud, gwahoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr Anthropolegydd Dr Luci Attala o’r Drindod Dewi Sant i gynnal astudiaeth i edrych ar sut mae gweithwyr wedi negodi'r newid o weithleoedd traddodiadol i amgylchedd desg boeth cynllun agored mewn meysydd anghlinigol. Y gosodiad cyffredinol a sylfaenol y mae'r adroddiad hwn yn honni yw mai dim ond gweithlu integredig all ddarparu gofal integredig.
Mae'r adroddiad yn amlinellu, er gwaethaf manteision clir ac amlwg yr adeiladau, fod detholiad o bryderon bach ond cylchol wedi achosi drwgdeimlad i'r ffyrdd y gall staff integreiddio gyda'i gilydd ac ar draws grwpiau o fewn yr adeiladau.
Bydd y sesiwn 60 munud hon yn taflu goleuni ar y materion hynny a sut y gweithiodd y bwrdd iechyd i ddod o hyd i atebion ar gyfer y ffordd y gall staff ddefnyddio'r canolfannau presennol.
Ble a phryd
Dydd Mercher 10 Medi 2021
12:00 – 13:00
Zoom
Cofrestru
I gofrestru ar gyfer y seminar, llenwch ein ffurflen cadw lle ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.
Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Dylech sicrhau eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cadw lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch chi.
Am ragor o wybodaeth ar y digwyddiad, anfonwch e-bost i good.practice(at)audit.wales