Sesiwn am ddim hon, gan Dîm Hybu Gomisiynydd y Gymraeg, yn caniatáu i chi ddatblygu defnydd eich sefydliad o’r iaith Gymraeg. Bydd yn rhannu gwybodaeth, ymchwil a chymorth ymarferol ar sut i gynllunio i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn eich sefydliad.
Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg a Gymraeg:
- 8 Mai 2024 | 2 yp – 3.30 yp | Ar-lein – Cymraeg
- 21 Mai 2024 | 10 yb – 11.30 yb | Ar-lein – Saesneg
Beth yw rôl y Gymraeg o fewn y trydydd sector? Sut mae’n berthnasol i chi, eich sefydliad a’ch defnyddwyr gwasanaeth? Sut gallwch chi gynllunio er mwyn sicrhau eich bod yn ymateb i anghenion eich cynulleidfa? Byddwn yn cynnig syniadau ymarferol gallwch eu rhoi ar waith i gynyddu eich darpariaeth Gymraeg yn syth. Yn y sesiwn hon byddwch yn edrych ar fanteision y Gymraeg, cyd-destun hanesyddol a phresennol yr iaith, y cymorth sydd ar gael gan Gomisiynydd y Gymraeg, a chynllunio ymarferol er mwyn datblygu eich defnydd o’r Gymraeg.
Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:
- Deall cyd-destun hanesyddol a chyfredol y Gymraeg yn well
- Deall y sefyllfa ynglŷn â deddfwriaeth a pholisi cyhoeddus y Gymraeg yn well
- Deall perthnasedd y Gymraeg i’ch cwsmeriaid a’ch defnyddwyr gwasanaeth
- Disgrifio manteision y Gymraeg o fewn cyd-destun y trydydd sector
- Adnabod a defnyddio’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael yn rhad ac am ddim gan Gomisiynydd y Gymraeg ac eraill
Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer:
- Gweithwyr, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr sydd eisiau dysgu mwy am rôl y Gymraeg o fewn eu sefydliad
- Swyddogion â chyfrifoldeb dros ddarpariaeth Gymraeg eu sefydliad
- Unigolion sydd eisiau deall mwy am berthnasedd y Gymraeg i’w rôl
Archebwch eich lle yma.
Noder: nid yw’r sesiwn yn addas ar gyfer swyddogion o sefydliadau sydd â dyletswydd gyfreithiol i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sector gyhoeddus a rhai sefydliadau trydydd sector. Mae gwybodaeth bellach am hyn ar wefan Comisiynydd y Gymraeg. Os ydych yn ansicr, mae croeso i chi gysylltu am fwy o wybodaeth. hybu@comisiynyddygymraeg.cymru / 03456 033 221 / www.comisiynyddygymraeg.cymru/hybu