Bydd amrywiaeth o wybodaeth ar gael yn cynnwys - ffynonellau cyngor, cefnogaeth, budd-daliadau, unigedd, gwirfoddoli, iechyd meddwl, cyflogaeth, gofal, grwpiau lleol a llawer mwy.
Dywedodd Sharon Healey, Pennaeth newydd Iechyd, Lles a Phartneriaethau yn PAVO: “Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bawb sy'n byw yng nghymunedau Machynlleth a Bro Ddyfi. Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i gefnogaeth leol, os oes gennych chi broblem neu os ydych chi'n awyddus i wella'ch iechyd a'ch lles, dewch draw i gael eich cyflwyno i sefydliadau a all eich helpu a'ch cefnogi. Mae hwn yn gyfle unwaith y flwyddyn ac os yw digwyddiad y llynedd yn unrhyw beth i ddilyn yna fe fydd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn arall i’r ardal.”
Dydd Mercher 14 Mehefin Yn Y Plas, Machynlleth rhwng 11.00am a 1.00yh.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sioned Pritchard, Cysylltydd Lleol ar 01597 828649 / sioned.pritchard(at)pavo.org.uk.