Cefndir
Mae hwn yn fater pwysig i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol ac mae CGGC a'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs) wedi bod yn ymgysylltu â swyddogion allweddol i sicrhau bod lleisiau mudiadau'r sector gwirfoddol a'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw yn cael eu clywed yn y broses hon. Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau bod y lleisiau hyn yn cael eu clywed gan fod y sector gwirfoddol wedi bod yn arwain y ffordd ym maes presgripsiynu cymdeithasol.
Ymgynghori
Rydym yn disgwyl ymgynghoriad llawn ar fframwaith drafft cyn yr haf, ond rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar gyfle cynharach i’r sector gwirfoddol ymgysylltu â’r cynlluniau hyn.
Manylion y Digwyddiad
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i holl fudiadau’r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol, a bydd yn rhoi cyfle i ni glywed gan Lywodraeth Cymru am eu cynlluniau yn y maes hwn, yn ogystal â rhoi rhywfaint o adborth cychwynnol iddynt
Digwyddiad Presgripsiynu Cymdeithasol y Sector Gwirfoddol (ar lein Zoom)
11 Ebrill 2022 - 2.00 - 4.00pm