Digwyddiad Lansio

Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol (NFfSP) yng Nghymru

Yn dilyn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddatblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru, mae’n bleser gennym eich gwahodd i ddigwyddiad lansio ar-lein.

Cynhelir y digwyddiad rhithiol a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ysgol Ymchwil Presgripsiwn Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddydd Iau 7ed Rhagfyr 2023, 10:00 - 13:00.

Bydd y digwyddiad hwn yn:

·        Cyflwyno’r Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru

·        Rhannu datblygiadau ym maes presgripsiwn cymdeithasol fel rhan o’r Fframwaith Cenedlaethol gan gynnwys, Geirfa Termau ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol a Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Ymarferwyr Presgripsiwn Cymdeithasol yng Nghymru

·        Gosod y camau nesaf ar gyfer y Fframwaith Cenedlaethol

·        Rhannu profiadau o bresgripsiwn cymdeithasol ledled Cymru

·        Clywed sut mae presgripsiwn cymdeithasol wedi cael ei weithredu yn fyd-eang a gwrando ar farn panel rhyngwladol o arbenigwyr ar y Fframwaith Cenedlaethol.

Clicwch ar y ddolen isod i gofrestru – dylai hyn gymryd llai na 30 eiliad!

Dolen gofrestru -  Digwyddiad presgripsiynu cymdeithasol | Social Prescribing Event Tickets, Thu 7 Dec 2023 at 10:00 | Eventbrite

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity