Digwyddiad Arlein - Gwella'r gefnogaeth a'r gwasanaethau i ddynion hŷn sy'n cael eu cam-drin

Ymunwch â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru i archwilio’r camau sy’n cael eu cymryd mewn ymateb i’w hadroddiad diweddaraf – ‘Gwella'r gefnogaeth a'r gwasanaethau i ddynion hŷn sy'n cael eu cam-drin yn ddomestig’

Dydd Iau 27 Hydref // 10:00-11:30am

Ymunwch i thrin a thrafod sut gallwn weithio gyda’n gilydd i helpu i sicrhau bod dynion hŷn sy’n cael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Yn y digwyddiad, byddwch yn clywed gan ddynion sydd wedi goroesi camdriniaeth am eu profiadau, a'r rhwystrau y gwnaethant eu hwynebu wrth roi gwybod am gam-drin a chwilio am help.

Bydd panel arbenigol hefyd yn ymuno â’r Comisiynydd i nodi sut gallwn chwalu'r rhwystrau hyn, a ffyrdd ymarferol o wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael i ddynion hŷn sy'n profi cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o hynny.

Archwebech eich lle yn awr: Gwella'r gefnogaeth a'r gwasanaethau i ddynion hŷn sy'n cael eu cam-drin yn Ddomestig

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity