Mae ProMo-Cymru yn cynnal cwrs am ddim ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.
Mae Cynllunio Gwasanaethau Digidol yn gwrs ymarferol wedi ei hwyluso gan y rhaglen Newid, sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y cwrs yw grymuso sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru i drawsnewid gwasanaethau digidol gan ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth.
Bydd unigolion neu grwpiau o sefydliadau yn cael eu cefnogi i gynllunio, profi a datblygu gwasanaethau digidol/hybrid newydd neu i ail-feddwl gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli.
Yn ystod y rhaglen, bydd y cyfranogwyr yn:
- Cael cyfle i ddatrys her go iawn sy’n wynebu eu sefydliad
- Ymroi amser a gofod i brofi syniadau a dulliau newydd
- Dysgu pethau newydd am ddefnyddwyr eu gwasanaeth a’u hanghenion
- Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
- Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y person gan ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth
- Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd
- Cael mynediad i offer ac adnoddau digidol
I bwy mae’r cwrs yma?
I gofrestru ar gyfer y cwrs am ddim yma, mae’n rhaid i chi fod yn gweithio i sefydliad trydydd sector yng Nghymru. Efallai eich bod chi’n awyddus i ddysgu mwy am wasanaethau digidol, neu efallai eich bod wrthi’n cynllunio (neu’n ail-gynllunio) gwasanaeth digidol.
Beth yw trefn y cwrs?
Mae 2 ran i’r cwrs. Y rhan cyntaf yw gweminar sydd yn cyflwyno’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth a pham fod hyn yn llwyddiannus ar gyfer gwasanaethau digidol. Gallwch ddewis mynychu’r rhan gyntaf yn unig, neu os oes gennych chi brosiect cynllunio gwasanaeth ar y gweill cwblhewch yr ail ran lle bydd cefnogaeth i ddatblygu eich gwasanaeth digidol.
Dyddiadau pwysig:
- Dyddiad cau ceisiadau – 27ain Medi 2023
- Gweminar: Cyflwyniad i gynllunio gwasanaeth digidol – 4ydd neu 10fed Hydref, 10yb-1yp (ar Zoom)
neu
- Prototeipio wyneb-yn-wyneb – 15fed Tachwedd 2023 (mae potensial am ddyddiad arall, yn ddibynnol ar y niferoedd)
Mae niferoedd yn gyfyngedig, cofrestrwch yn fuan i sicrhau eich lle.