Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru fodiwl e-ddysgu newydd.
Mae’r modiwl hwn ar gyfer gweithwyr a myfyrwyr gofal cymdeithasol neu blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n dymuno dysgu mwy am yr iaith Gymraeg, diwylliant a gweithio’n ddwyieithog.
Mae'r modiwl yn cynnwys gwybodaeth am yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd, beth mae'r gyfraith yn ei ddweud, ac edrych ar yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud a pham. Mae'r modiwl hefyd yn edrych ar ymarferoldeb gweithio'n ddwyieithog a beth mae hyn yn ei olygu i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, a'r hyn y gallwch ei wneud i wella profiadau unigolion neu blant sy'n derbyn gofal a chymorth.
Mae’r modiwl yn cynnwys:
Cysgod hanes (hanes byr o’r iaith Gymraeg)
Deddfwriaeth a’r Cynnig Rhagweithiol
Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith yn bwysig
Cartref oddi cartref (ffilm fer sy’n dangos effaith dementia a’r iaith Gymraeg)
Mwy o adnoddau i gefnogi ymwybyddiaeth a datblygiad iaith
camau nesaf
Bydd y modiwl yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau ac mae'n cyfri tuag at ddatblygiad proffesiynol parhaus gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig (1 awr) a bydd pawb sy'n ei gwblhau yn derbyn tystysgrif.