Data 101: Cyflwyniad i ddeall a defnyddio data

Sesiwn ar-lein i’ch cyflwyno i’r adnoddau gorau i’ch helpu i ddeall a defnyddio data’n effeithiol

Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg

Mae data yn sylfaenol i sut rydym ni’n gweithredu fel bodau dynol. Rydym ni’n defnyddio data bob dydd, llawer o weithiau y dydd, a hynny heb yn wybod i ni, yn fwy na thebyg. Data sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n mynd ymlaen a beth sydd angen ei wneud.

Mae’n bwysig, felly, bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall a defnyddio data. Yn ein cwrs byddwn yn siarad am y gwahanol fathau o ddata a sut mae dod o hyd iddo. Byddwn ni’n eich arwain trwy gyfres o gwestiynau sy’n bwriadu helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall y data rydych chi’n gweithio gydag ef. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan rai technegau i helpu i droi data yn wybodaeth.

Erbyn diwedd y cwrs byddwn chi’n deall:

  • beth yw data a sut mae dod o hyd iddo
  • y cwestiynau mae angen i chi eu gofyn wneud yn siŵr eich bod chi’n deall data
  • rhai technegau sylfaenol ar gyfer defnyddio data.

Mae’r cwrs hwn i staff neu wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am data. Cwrs cyflwyniadol, lefel uchel, yw hwn sy’n cael ei anelu at ddechreuwyr a’r sawl sydd ond yn dechrau defnyddio data. Mae’n fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddulliau a’i gynnwys. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata nac ystadegau.

Cyflwynir yr hyfforddiant gan Data Cymru, mae’r rhain yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae’r hyfforddiant yma wedi’i drefnu fel rhan o Brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo-Cymru. 

UCHAFSWM o ddau le i bob mudiad.

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y profiad gorau ar ein cyrsiau, gofynnwn y canlynol ohonoch chi;

  • Ymrwymwch i fynychu holl hyd yr hyfforddiant
  • Profwch eich mynediad i Teams
  • Bydd yr hyfforddiant yn dechrau’n brydlon, cyrhaeddwch 10 munud cyn yr amser dechrau, oherwydd mae’n bosibl na fydd pobl sy’n cyrraedd yn hwyr yn cael eu gadael i mewn
  • Mae ein cyrsiau’n rhyngweithiol a chyfranogol a gofynnwn, lle’n bosibl, i’r holl ddysgwyr gael eu camerâu arno a chymryd rhan drwy’r cyfleusterau microffon a sgwrsio
  • Rhowch wybod i ni wrth gadw’ch lle os oes gennych chi unrhyw ofynion penodol, e.e. dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • Bydd cyfarwyddiadau ymuno ac adnoddau yn cael eu hanfon atoch – gwiriwch eich ffolder e-bost sothach os nad ydych wedi eu derbyn wythnos cyn yr hyfforddiant (unrhyw broblemau, rhowch wybod i ni)
  • Os na allwch chi fynychu, anfonwch e-bost at training(at)wcva.cymru (gweler ein polisi canslo)

 

Cofrestrwch yma.

Am unrhyw ymholiadau eraill e-bostiwch: training(at)wcva.cymru.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity