Bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnal sesiwn ymwybyddiaeth fepio ar-lein ddydd Iau 2 Mai 2024 am 12:30pm.
Bydd y sesiwn yn diweddaru partneriaid a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc ym Mhowys ar waith Grŵp Lleihau Niwed Nicotin Powys a'r canllawiau diweddaraf ynghylch fepio a phobl ifanc.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
- Tessa Craig, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Addysg Powys
- Greg Langridge-Thomas, Uwch Reolwr – Diogelu Iechyd Cymunedol a Llesiant, Cyngor Sir Powys
- Chris Emmerson, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Smoking Cessation Team, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Gwasanaeth Ieuenctid Powys
- Adferiad
- Sarah Griffiths, Uwch Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Jacqui Thomas, Prif Swyddog Safonau Masnach, Cyngor Sir Powys
I gofrestru ar gyfer y sesiwn ewch i: https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrsmHrXxxxopNlXVEtAby85xUNEM0M1lNQlJONUZQTzFFUk9KT1BNSFA5NC4u.
Bydd y cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon cyn y digwyddiad. Am ragor o wybodaeth, cysyllltwch â Thîm Ysgolion Iach Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, yn: powyshealthyschools(at)wales.nhs.uk.