Dysgu sut mae creu cynnwys bachog ac effeithiol yn ddwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol.
Amcanion
Dysgu sut mae creu cynnwys bachog ac effeithiol yn ddwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cynnwys
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gyfle gwych i gadw mewn cyswllt gyda’ch defnyddwyr gwasanaeth a chyrraedd cefnogwyr a defnyddwyr newydd. Gall baratoi cynnwys Cymraeg eich helpu i gyrraedd dilynwyr newydd ac i sefyll allan. Byddwn yn ceisio ateb cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml gan elusennau am y ffordd orau o ddefnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol trwy edrych ar enghreifftiau go iawn.
Byddwn yn ystyried gwahanol opsiynau sy’n addas ar gyfer sefydliadau sydd heb lawer o staff sy’n siarad Cymraeg a sefydliadau sydd eisoes yn gweithio’n ddwyieithog. Byddwn hefyd yn trafod pa gymorth sydd ar gael i sefydliadau pan fo adnoddau’n brin.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y weminar bydd cyfranogwyr:
Yn gwybod am ddefnydd clyfar o ddelweddau a phosteri
Yn ymwybodol o ba gyfrifon eraill y gallwch eu tagio i gyrraedd pobl newydd
Wedi cynyddu eu gwybodaeth o’r arfer orau wrth greu cynnwys dwyieithog
Yn ymwybodol o offer ac adnoddau gallwch fanteisio arnynt i greu cynnwys Cymraeg