Bydd y sesiwn bwrdd gron yn dod â rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â chomisiynu a darparu gwasanaethau llesiant cymunedol ynghyd, o ymarferwyr a darparwyr i lunwyr polisi a chyllidwyr. Pwrpas y digwyddiad yw:
Rhannu'r ymchwil a wnaed gan WCPP a Frame ac i ddarparwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd am brofiadau darparu gwasanaethau cymunedol cyfunol yng Nghymru.
Nodi galluogwyr a rhwystrau i fabwysiadu dull cyfunol o ddarparu gwasanaethau cymunedol.
Deall yr hyn y gall darparwyr gwasanaethau cymunedol lleol, llunwyr polisi, comisiynwyr a chyllidwyr ei wneud i alluogi gwasanaethau cyfunol llwyddiannus i gael eu cynnal a'u gwella.
Bydd y digwyddiad bwrdd gron rhyngweithiol yn galluogi'r rhai sy'n bresennol i drafod canfyddiadau'r ymchwil a nodi ar y cyd sut y gellir cynnal a gwella dulliau llwyddiannus o gyfuno gwasanaethau.
I gadw eich lle, cofrestrwch ar: https://forms.gle/RnHYoKT89AMGSgsm9