Trwy ddathlu ac addysgu, ynghyd ag ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o hanesion a phrofiadau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, mae’r Mis Hanes yn helpu i fynd i'r afael â rhagfarn, herio mythau a chynyddu llais Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Er mwyn hyrwyddo'r mis hanes hwn, mae Tîm Cydlyniant Canolbarth a De-orllewin Cymru yn hyrwyddo sesiwn 2 awr ar Teams/Zoom a gyflwynir gan Travelling Ahead, sy'n darparu Gwasanaeth Cyngor ac Eiriolaeth ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru.
Mae’r sesiwn yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac sy’n awyddus i ddysgu am eu diwylliant a’u hanes.
Cynhelir y sesiwn ddydd Mawrth 28 Mehefin,
Bydd y sesiwn yn cynnwys: Tue 28th June 10.30 am - 12.30
Nodau ac Amcanion:
Diben y sesiwn yw cefnogi cydweithwyr drwy wella eu dealltwriaeth a rhoi'r sgiliau iddynt i ddiwallu anghenion y gymuned hon yn well.
• O ble y daethant
• Beth sy'n gwneud Sipsi neu Deithiwr
• Safleoedd o amgylch Cymru
• Gwaredu'r mythau
• Diwylliant ac arddull bywyd
Gobeithiwn y byddwch yn gallu ymuno â ni. Os hoffech gofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost at Denise.barry(at)tgpcymru.org.uk